Episodes

Dec 14, 2024
Dec 14, 2024
38 min
Sylw manwl i ddarllediad Cymreig o 2RN Dulyn a anelwyd at y Cymry ym 1927.
Adloniant A gweithred i godi cywilydd ar y BBC!!
Dr Ffion Owen yw gwestai Andy Bell - mae hi wedi dod o hyd i lawer o wybodaeth am y darllediad arbennig hwn a'i berfformwyr: Y Brodyr Francis a Gwladys Williams.
https://dyffrynnantlle.360.cymru/2021/cantorion-cyntaf-diwylliant-cymraeg
Mae'r podlediad aml-ran yn trafod tystiolaeth ac ymchwil newydd sy'n codi mwy nag un cwestiwn!
Cerddoriaeth gloi: "Hall's Pictorial Weekly", Teledu RTÉ.

Dec 12, 2024
Dec 12, 2024
1 min
Mwy byth o hanes y darlledu Cymreig a Chymraeg o Iwerddon yn y 1920au.
Mae'r rhan gyntaf fan hyn: https://www.podbean.com/eas/pb-8ni3u-175a59f

Dec 7, 2024
Dec 7, 2024
27 min
Rhan gyntaf bennod arbennig sy'n edrych ar ddarllediad Cymraeg a Chymreig hanesyddol ym 1927.
O stiwdio yn Nulyn ddaeth y rhaglen, ar adeg pan nad oedd y BBC - oedd newydd droi'n gorfforaeth gyhoeddus - yn gefnogol i roi lle ar y "diwifr" i'r Gymraeg.
Mae'na ddadlau am natur y rhaglen OND heb os roedd hi'n bwysig yn natblygiad darlledu yn yr iaith.
Cerddoriaeth gloi: Ó Domhnaill Abú - Seindorf Lluoedd Arfog Iwerddon
Os oes gennych unryhw sylwadau neu syniadau am "Rhaglen Cymru" danfonwch e-bost at rhaglencymru@hotmail.com
Mwy am hanes cynnar radio yn Iwerddon: https://www.rte.ie/archives/2017/0205/849939-2rn-the-origins-of-irish-radio
https://ibhof.blogspot.com
https://irishmediahistory.com/2021/03/29/the-irish-free-state-and-the-radio-age

Dec 5, 2024
Dec 5, 2024
1 min
Mae rhai'n mynnu ddaeth yr rhaglen radio go iawn cyntaf yn y Gymraeg o ... Ddulyn.
Podlediad dwy ran sydd ar y gweill i adrodd stori ryfedd AC mae Andy Bell wedi dod o hyd i wybodaeth newydd sy'n gweud hanes niwlog yn fwy niwlog byth!!!
Y bennod gyntaf yn cael ei rhyddhau ar Ragfyr y 7fed.

Nov 30, 2024
Nov 30, 2024
29 min
Llyr Morus sy'n siarad âg Andy am ei waith fel cynhyrchydd teledu a'i swydd newydd fel Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru.
Mae'n sôn am fwrlwm sector gynhyrchu sydd wedi dod â gwaith i rannau helaeth o Gymru, ei angerdd dros fynd â'r Gymraeg dros y byd a phwysigrwydd hybu cenhedlaeth newydd o bobl ddarlledu.
https://www.tac.cymru/newyddion/penodi-llyr-morus-yn-gadeirydd-newydd-tac
Cerddoriaeth gloi: "Tico's Tune", sef arwyddgân sioe Gay Byrne ar RTÉ.

Nov 23, 2024
Nov 23, 2024
39 min
A ydy'r Gymraeg yn ddoniol?
Yr awdur Mike Parker yn trafod agweddau tuag ati gan raglenni comedi Seisnig ar y radio a theledu.
Fe gewch glywed enghreifftiau o "ffraethineb" dros y blynyddoedd hefyd!!
Mike yw awdur "Neighbours from hell?" a "All the Wide Border".
https://www.ylolfa.com/products/9780862436117/neighbours-from-hell
https://harpercollins.co.uk/products/all-the-wide-border-wales- england-and-the-places-between-mike-parker?variant=40267801690190
Y gerddoriaeth gloi: "Glitter & Be Gay" - sioe Dick Cavett, cerddorfa Bobby Rosengarden.

Nov 21, 2024

Nov 16, 2024
Nov 16, 2024
37 min
Dr Elain Price, awdur y llyfr "Nid Sianel Gyffredin Mohoni" yn olrhain hanes ffurfiannol Sianel Pedwar Cymru.
Yr arbrawf darlledu sydd bellach yn sefydliad.
https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni
Cerddoriath gloi: Arwyddgân "The Newsroom" - teledu CBC 1996–2005

Nov 14, 2024
Nov 14, 2024
1 min
Mae S4C yn 42 oed ym 2024.
Sefydlwyd y sianel wedi blynyddoedd o ymgyrchu uniongyrchol a gwleidyddol.
Dr Elain Price yw gwestai Andy Bell ar bennod nesaf y gyfres, hi sgwennodd Y llyfr am ddyddiau cynnar y sianel!!

Nov 11, 2024
Nov 11, 2024
1 min
I'r sawl sydd heb wrando o'r cychwyn ;-)
Cerddoriaeth: 'Hall's Pictorial Weekly' - teledu RTE 1971-80

Nov 9, 2024
Nov 9, 2024
21 min
Ail ran sgwrs Andy Bell gyda Beti George.
Rhaglenni a thipyn o bendroni am ddarlledu.

Nov 2, 2024
Nov 2, 2024
26 min
Dyma ran gyntaf sgwrs arbennig rhwng Andy Bell a'i westai Beti George.
Mae'r ddau'n rhannu'r un profiad gwaith - gohebu'n Gymraeg o stiwdio'r BBC yn Abertawe'n gynnar yn eu gyrfaoedd!
Criced, streiciau a "vox pops" hefyd yn cael sylw.
Cereddoriaeth: Perpetuum mobile, op. 257 (Johann Strauss II)

Oct 26, 2024
Oct 26, 2024
31 min
Mae Eurof Williams wedi bod yng nghanol y canu cyfoes yng Nghymru ers degawdau - yn gynhyrchydd rhaglenni radio a theledu A rheolwr bandiau.
Mae e hefyd wedi ennill BAFTA am ffilm am Elvis ac wedi gweithio ym mhob twll a chornel o ddarlledu Cymraeg a Chymreig.
Mewn sgwrs gydag Andy Bell, mae Eurof yn trafod y dylanwadau a'r datblygiadau yn ystod ei yrfa.
A'r gair mawr yw: 'creu'.
Cerddoriaeth gloi: "Radio Cymru" - Y Trwynau Coch

Oct 19, 2024
Oct 19, 2024
25 min
Pod dog 'dy hon o ran pennod!
Sef 'podlediad dogfen'.
Andy Bell yn adrodd hanes y gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf - y bwletin am bump adeg yr Ail Ryfel Byd.
Mae AB yn gobeithio cynhyrchu mwy o bennodau fel hyn yn ystod y gyfres.
Oes genncyh chi awgrymiadau????
Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com

Oct 16, 2024
Oct 16, 2024
5 min
Cyfle i ddathlu rhaglen ddylanwadol a phoblogaidd, a hithau'n 50!
Atgofion auraidd.
Roedd y pod bach hwn yn rhan o ail bennod "Rhaglen Cymru" gyda'r Athro Jamie Medhurst - https://www.podbean.com/eas/pb-z99ja-16d6657
Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com
X/Twitter: @rhaglencymru FB @rhaglen.cymru