Mae Eurof Williams wedi bod yng nghanol y canu cyfoes yng Nghymru ers degawdau - yn gynhyrchydd rhaglenni radio a theledu A rheolwr bandiau.

Mae e hefyd wedi ennill BAFTA am ffilm am Elvis ac wedi gweithio ym mhob twll a chornel o ddarlledu Cymraeg a Chymreig.

Mewn sgwrs gydag Andy Bell, mae Eurof yn trafod y dylanwadau a'r datblygiadau yn ystod ei yrfa.

A'r gair mawr yw: 'creu'.

Cerddoriaeth gloi: "Radio Cymru" - Y Trwynau Coch

Comment (0)

No comments yet. Be the first to say something!