Episodes

Oct 12, 2024

24 min

Sgwrs rhwng Andy Bell a Richard Wyn Jones, un o gymeriadau lliwgar sy'n gweithio y tu ôl i'r camerau.
Rheolwr llawr yw e ac mae e wedi gweithio ar lu o gynhyrchiadau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Richard hefyd yn hoff o'i hanes darlledu - jyst fel Andy!!
Dyma rai o'i erthyglau:
Tyfu lan gydag ITV https://transdiffusion.org/2005/09/03/memories
Diwedd TWW https://transdiffusion.org/2002/01/01/exit
Gyrfa Robin Jones https://transdiffusion.org/2006/06/03/robin_jones 

Oct 5, 2024

37 min

Mis Medi 2024 yw hanner canmlwyddiant sefydlu Sain Abertawe - gorsaf radio fasnachol gyntaf Cymru.
I nodi'r achlysur mae Siân Sutton wedi golygu cyfrol arbennig - "Chwyldro ym myd darlledu" (Gwasg Carreg Gwalch - https://carreg-gwalch.cymru)  
Roedd Siân yn aelod o staff Sain Abertawe rhwng 1979 a 1982. 
Wrth iddi adael daeth cyw-ddarlledwr o'r enw Andy Bell i weithio yno. 
Yn y bennod hon mae Siân ac Andy'n rhannu atgofion ac yn ystyried pwysigrwydd Sain Abertawe - i ddarlledu'n gyffedinol AC i'w gyrfaoedd hwythau.
Cofiwch cysylltu: rhaglencymru"hotmail.com

Sep 30, 2024

7 min

Pod fach ac amserol sy'n dod o'r galon.
Andy Bell yn sôn am hanes sefydlu radio lleol annibynnol yng Ngymru a'r DU ar achlysur penblwydd aur gorsaf radio fasnachol gyntaf Cymru - Sain Abertawe.
Bu Andy yn gweithio yn stafell newyddion yr orsaf am dair mlynedd ac yn gyflwynydd ar y rhaglen chwaraeon wythnosol "Bell Ar Y Bêl".
Llyfr Siân Sutton am Sain Abertawe yw "Chwyldro ym myd darlledu" (Gwasg Carreg Gwalch)
Broliant y Cyngor Llyfrau:
Yn 1974 roedd 'chwyldro yn yr awyr' yn ardal Abertawe wrth i orsaf radio annibynnol gyntaf Cymru ddechrau darlledu ar Fedi 30. Sain Abertawe oedd y seithfed orsaf annibynnol drwy Brydain a'r gyntaf erioed i ddarlledu yn ddwyieithog.
https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845279561&tsid=2 
SA Radio Live www.saradiolive.co.uk 
 

Sep 28, 2024

37 min

Tim Hartley (@timhhartley) sy'n dweud ei ddweud am bethe darlledu'r tro hwn.
Mae fe ac Andy'n edrych 'nôl i'w dyddiau yn stiwdios y BBC yn Abertawe ... a'u hoffter o beiriannau cwis!
Hefyd, mae'r peiriant amser yn mynd â ni i flwyddyn gythryblus a thyngedfennol ...
 

Sep 21, 2024

32 min

Yr Athro Jamie Medhurst (@jamie_medhurst) o Brifysgol Aberystwyth yw gwestai Andy Bell am ail bennod y gyfress.
Maent yn trafod ystyr astudiaethau cyfryngol, Pobol y Cwm yn 50 a phwysigrwydd darlledu i hunaniaeth y Cymry.
 

Y Busnes Teuluol

Sep 14, 2024

Sep 14, 2024

35 min

Siân a Vaughan Roderick yw gwesteion Andy Bell yn y bennod gyntaf o bodlediad sy'n trafod pob elfen o ddarlledu.
Ac mae Andy yn adrodd stori bersonol iawn.
Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com
 

Sep 12, 2024

2 min

Fe fydd Rhaglen Cymru yn lansio ar 14/9/24 - y gwesteion cyntaf yw Siân a Vaughan Roderick.