Episodes

Jul 10, 2025

2 min

Penodwyd aelodau newydd i Fwrdd Sianel Pedwar Cymru yn ddiweddar ... sgwrs gydag un ohonynyt fydd ym mhennod nesaf y podlediad.
https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cg5v7m28gjjo
https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/bwrdd-s4c
Hefyd, y diweddara am ddiflanniad BBC Sounds i wrandawyr tramor + newid i ddwy orsaf radio lleol Cymreig.
 
 

Jul 4, 2025

39 min

Y newid i BBC Sounds yn digwydd o'r diwedd ... newyddion da a drwg i'r diaspora Cymraeg.
Y diweddara gan Andy a thipyn o ddadansoddi amdani.
https://www.bbc.com/mediacentre/2025/articles/update-on-access-to-bbc-sounds-outside-the-uk
Hefyd ... y weithred o wylio a barnu - gwaith y colofnydd teledu.
Sgwrs fywiog a dadlennol gydag Elinor Wyn Reynolds, colofnydd cylchgrawn Barn.
Pynciau trafod yn cynnwys 'Y Llais', drama ar y bocs bach a trash TV.
https://barn.cymru
Cerddoriaeth gloi: Crystal Tipps & Alistair, un o hoff raglenni erioed EWR & AB !! https://youtu.be/xWZzMK98n4I?si=nK6ltA4QjRJbfR5f 
rhaglencymru@hotmail.com
 

Jul 3, 2025

1 min

Elinor Wyn Reynolds yw colofnydd teledu cylchgrawn Barn.
Hi yw'r gwestai nesaf - yn trafod S4C, hoff raglenni a trash TV!!
rhaglencymru@hotmail.com

Diwedd y gân

Jun 28, 2025

Jun 28, 2025

36 min

Sut i gynnal a chadw cyfryngau cyhoeddus.
Dyna bwnc ENFAWR y bennod hon yng nghwmni Richard Martin AKA @mimosacymru
Mae Llywodraeth y DU am newid y gyfundrefn: https://bbc.com/news/articles/crrz18882ygo
Ac mae Richard - a sawl un arall - wedi bod yn trafod y cyd-destun Cymreig: https://www.llyw.cymru/panel-arbenigol-ar-awdurdod-darlledu-a-chyfathrebu-cysgodol-i-gymru
Beth ydy'ch barn chi? - rhaglencymru@hptmail.com
 
 

Jun 26, 2025

1 min

Yn y bennod nesaf fe fydd ariannu cyfryngau cyhoeddus yn bwnc trafod.
Maes heriol a hanner - beth ydy'ch barn chi?
rhaglencymru@hotmail.com

Jun 21, 2025

19 min

Mynd a dod ym myd radio lleol yng Ngmyru unwaith eto.
Diwedd oes SA Radio Live yn Abertawe ... a chynnig arall ar radio cymunedol yn ei lle.
Andy yn gohebu ar y stori ac yn ein hatgoffa ni o werth radio lleol gyda lleisiau o'r archif.
Mwy am dranc SA Radio Live: https://radiotoday.co.uk/2025/06/sa-radio-live-closes-due-to-lack-of-income-rebrand-coming
Llyfr am Sain Abertawe: https://carreg-gwalch.cymru/products/chwyldro-ym-myd-darlledu
rhaglencymru@hotmail.com
 
 

Jun 19, 2025

1 min

Mewn blwyddyn gythryblus i radio Cymreig a Chymraeg, mae'na ragor o ddrama.
Y tro hwn yn Abertawe.
rhaglencymru@hotmail.com

Pod am bods!!

Jun 14, 2025

Jun 14, 2025

31 min

Digidol nid darlledu'r tro hwn.
Aled Jones, sylfeinydd ypod.cymru, yw'r gwestai.
Mae Aled wedi hyrwyddo degau o bodlediadau Cymraeg - gan gynnwys y fenter hon.
Mae ganddo brofiad a gwybodaeth eang am y byd digidol ac mae e'n meddwl bod gan y Gymraeg le i'w chwarae.
Gwefan: https://ypod.cymru
rhaglencymru@hotmail.com
 

Digidol amdani

Jun 12, 2025

Jun 12, 2025

1 min

Rhagflas o bennod nesaf "Rhaglen Cymru" lle bydd Aled Jones, syfeinydd ypod.cymru, yn trafod yr heriau a'r cyfleodd a ddaw yn sgil yr oes digidol.
rhaglencymru@hotmail.com

Jun 7, 2025

30 min

Trafod ITV Cymru gyda'i archifydd Owain Meredith.
Y wefan newydd Clip Cymru am gynnig llu o deledu hanesyddol i wylwyr.
Mae Andy ac Owain yn trafod y weithred o gofnodi a'r defnydd o archif.
Ac mae Andy yn gofyn am glip bach arbennig o'i 'yrfa' cerddorol yn yr 80au !!
https://www.library.wales/clip-cymru
rhaglencymru@hotmail.com

Jun 5, 2025

1 min

Sgwrs gydag archifydd ITV Cymru Owain Meredith fydd pennod nesaf "Rhaglen Cymru".
https://www.library.wales/clip-cymru
 

Môn FM

May 31, 2025

May 31, 2025

38 min

Y tro hwn sylw i radio cymudeol.
Tomos Dobson yw cadeirydd Môn FM, gorsaf ddwyieithog yn y gogledd-orllewin.
Menter wirfoddol wrth galon Ynys Môn ydy hi a mewn sgwrs gydag Andy mae Tomos yn sôn am hanes yr orsaf a'r cynlluniau amdani.
rhaglencymru@hotmail.com
 
 

May 29, 2025

1 min

Blas o'r bennod nesaf lle bydd hanes radio lleol Ynys Môn dan y chwyddwydr.
Môn FM https://www.monfm.co.uk
 

May 24, 2025

27 min

Un bennod, dwy bwnc.
Y diweddara am helyntion pleidleisio Eurovision 2025 + hanes Urdd Gobaith Cymru ar y radio a theledu ar drothwy eisteddfod y mudiad.
Dyma'r ddolen i Eurovision Spotlight: https://spotlight.ebu.ch/p/israeli-government-agency-paid-for
Cân Mr Urdd gan Emyr Wyn (1976)
rhaglencymru@hotmail.com

May 21, 2025

1 min