Episodes

May 18, 2025
May 18, 2025
17 min
Pennod ar frys ar ôl noson ddramatig yn y Swistir wrth i'r 69fed cystadleuaeth Cân i Ewrop AKA yr Eurovision gael ei chynnal.
2025 ... Waw!!
Elfed Morgan Morris yn pwyso a mesur noson ryfedd yn hanes y Grand Prix gydag Andy - y ddau ohonynt yn superfans.
Tipyn i drafod a ddweud lleiaf !!
Rhannwch y bennod gyda'ch ffrindiau a theulu'r Ewrodeledu.
A rhannwch eich barn: rhaglencymru@hotmail.com

May 15, 2025
May 15, 2025
30 min
Ar drothwy'r Ewrodeledu AKA Eurovision, cyfle i glywed peth o hanes y rhaglen ers ei sefydlu ym 1956.
Ac mae Andy yn trafod presenoldeb ddadleuol Israel yn y gystadleuaeth.
Hefyd Vaughan Roderick, Siân Lloyd a Gareth Potter a'u perthynas â'r Concours Eurovision de la chanson.
rhaglencymru@hotmail.com
A chaneuon y diweddglo:
1965: LUX https://youtu.be/PyFnDf8PvmU?si=tZlBcx0eCWw6Chsg
1975: NL https://youtu.be/BPxuq4uQ0OU?si=A7xTDDJxt_mL1oYG
1985: NOR https://youtu.be/U94_AErNBZU?si=TDq8HpDxQRqbBHIU
1995: NOR https://youtu.be/u-gA0aU-d88?si=ixIEcS5Oc_5tB4CC
2005: GK https://youtu.be/__R-r2t0vSU?si=RVjyR0hQGt99T_3q
2015: SWE https://youtu.be/5sGOwFVUU0I?si=33x2u8dYFyh48hz4

May 13, 2025
May 13, 2025
1 min
Rhagflas o ail bennod Rhaglen Cymru am y Concours Eurovision de la chanson.
rhaglencymru@hotmail.com

May 9, 2025
May 9, 2025
37 min
Andy yn sgwrsio gyda Elfed Morgan Morris am yr Eurovision a'i phwysigrwydd iddyn nhw.
Superfans yw'r ddau ac maen nhw'n rhannu hanes A phwyso a mesur caneuon 2025.
Dyma lif Spotify Elfed: https://open.spotify.com/artist/0XU21xSysWh38lOuI3W53j

May 8, 2025
May 8, 2025
1 min
Andy'n eich atgoffa am bodlediadau arbennig ar #etholiadoz
Y canlyniad: https://rhaglencymru.podbean.com/e/etholiad-oz-llafur-yn-ol/
Y cefndir: https://rhaglencymru.podbean.com/e/awstralia-ir-anoraciaid-1/
rhaglencymru@hotmail.com

May 7, 2025

May 3, 2025
May 3, 2025
11 min
Noson syfrdanol yn etholiad Awstralia.
Buddugoliaeth ysgubol i'r Blaid Lafur a'r noson waethaf yn ei hanes i'r Blaid Ryddfrydol.
Wrth i Andy recordio am 2230 amser Canberra safodd y blaenoriaethau pleidleisio/y 2PP fel hyn: Llafur 56.27% Y Glymblaid 43.73%
Llafur yn ennill ail dymor gyda gogwydd o +3%.
rhaglencymru@hotmail.com

May 2, 2025
May 2, 2025
34 min
Wrth aros am ganlyniadau etholiad Awstralia dyma gyfle i ail-flasu sgwrs rhwng Andy a'r Athro Richard Wyn Jones.
Bwriedir rhyddhau pennod bodlediad ar ganlyniadau Awstralia ar Fai'r 3ydd, rhywbryd yn ystod dydd Sadwrn Cymru!!!
rhaglencymru@hotmail.com

Apr 30, 2025
Apr 30, 2025
15 min
Rhagolwg o'r etholiad cyffredinol a gynhelir ar Fai'r 3ydd yn Awstralia #etholiadoz.
Andy'n cynnig tros olwg a thipyn bach o ddarogan.
Pennod nesaf rhywbryd ar ôl y canlyniad!!!
Cerddoriaeth: Trefniant Stephan Koncz o'r anthem genedlaethol answyddogol 'Waltzing Matilda' gyda Ray Chen a Cherddorfa Symffoni Sydney.
https://youtu.be/K5dmBtNy1gk?si=RGiIb0xZZfccTH9I
rhaglencymru@hotmail.com

Apr 27, 2025
Apr 27, 2025
2 min
"Awstralia i'r Anoraciaid" - sylw i etholiad Oz ar lwyfan Rhaglen Cymru gan Andy Bell mewn dau bodlediad.
Rhagolwg: Ebrill 30
Y canlyniad: Mai 3
Eisiau gwybod mwy? https://www.sbs.com.au/news/collection/federal-election-2025-explained
#etholiadoz yw'r hashnod
rhaglencymru@hotmail.com

Apr 26, 2025
Apr 26, 2025
26 min
Sgwrs yng nghwmni Gwenfair Griffith o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd. (https://profiles.cardiff.ac.uk/cy/staff/griffithg).
https://www.cardiff.ac.uk/cy/journalism-media-and-culture
Sut mae'r genhedlaeth nesaf o ohebwyr yn siapio a sut mae profiad Gwenfair o weithio tramor wedi dylanwadu ar ei chrefft hithau fel newyddiadurwraig.
Mae hi hefyd wedi holi sawl riportar am eu profiadau ar gyfer cyfres radio a llyfr "Fy Stori Fawr" - bu Andy yn yr ail gyfres! https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781800993785/fy-stori-fawr
Ac mae'na newyddion hefyd am bennodau sydd i ddod yn y mis nesaf.
rhaglencymru@hotmail.com

Apr 24, 2025
Apr 24, 2025
1 min
Yn y bennod nesaf ceir sgwrs am natur newyddiaduraeth a'r ffyrdd mae'n newid.
Gwenfair Griffith o JOMEC, Prifysgol Caerdydd, yw'r gwestai.
https://www.cardiff.ac.uk/cy/journalism-media-and-culture

Apr 21, 2025
Apr 21, 2025
1 min
"Awstralia a'r Anoraciaid" - sylw i etholiad Oz ar lwyfan Rhaglen Cymru gan Andy Bell mewn dau bodlediad.
Rhagolwg: Ebrill 30
Y canlyniad: Mai 3
Eisiau gwybod mwy? https://www.sbs.com.au/news/collection/federal-election-2025-explained
#etholiadoz yw'r hashnod
rhaglencymru@hotmail.com

Apr 18, 2025
Apr 18, 2025
36 min
Pennod gyda'r diweddara am helynt BBC Sounds - arwyddion gobeithiol - a newyddion am fenter newydd i'r podlediad.
Hefyd, Aran Jones o https://www.saysomethingin.com/cy yn trafod ffyrdd o ddysgu ieithoedd gan ystyried effeithiolrwydd rhaglenni radio a theleu megis 'Croeso Christine' a 'Catchphrase'.
Mae Andy yn sôn am bwysigrwydd un rhaglen hanner canrif a mwy yn ôl a'i dylanwad ar ei daith o'r Gymraeg.
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: 'Kylie Medley' o gyngherdd gan Gôr Hoyw a Lesbiaidd Canberra (2018) ... gydag Andy yn canu tenor !!!

Apr 17, 2025
Apr 17, 2025
2 min
Rhagflas o bodlediad sy'm ymwneud â dysgu ieithoedd.
Hanes y rhaglenni dysgu ar radio a theledu dros y blynyddoed a'u heffeithiolrwydd + Aran Jones o 'Say Something In' yn trafod y weithred o ddysgu iaith a tharged y miliwn o siaradwyr Cymraeg.