Episodes

Thursday Oct 31, 2024

Saturday Oct 26, 2024
Saturday Oct 26, 2024
Mae Eurof Williams wedi bod yng nghanol y canu cyfoes yng Nghymru ers degawdau - yn gynhyrchydd rhaglenni radio a theledu A rheolwr bandiau.
Mae e hefyd wedi ennill BAFTA am ffilm am Elvis ac wedi gweithio ym mhob twll a chornel o ddarlledu Cymraeg a Chymreig.
Mewn sgwrs gydag Andy Bell, mae Eurof yn trafod y dylanwadau a'r datblygiadau yn ystod ei yrfa.
A'r gair mawr yw: 'creu'.
Cerddoriaeth gloi: "Radio Cymru" - Y Trwynau Coch

Thursday Oct 24, 2024
Thursday Oct 24, 2024
Mae Eurof yn gynhyrchydd o fri, sydd wedi bod wrthi ers y saithdegau.
Roedd e yng nghanol cyffro pop Cymraeg fel darlledwr A rheolwr bandiau.
Fe fydd y bennod hon yn cael ei rhyddhau ar Hydref y 26ain.

Saturday Oct 19, 2024
Saturday Oct 19, 2024
Pod dog 'dy hon o ran pennod!
Sef 'podlediad dogfen'.
Andy Bell yn adrodd hanes y gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf - y bwletin am bump adeg yr Ail Ryfel Byd.
Mae AB yn gobeithio cynhyrchu mwy o bennodau fel hyn yn ystod y gyfres.
Oes genncyh chi awgrymiadau????
Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com

Thursday Oct 17, 2024
Thursday Oct 17, 2024
Fe fydd "Rhaglen Cymru" ychydig yn wahanol tro nesaf ... pod dog fydd e!!!
Mae'r rhagflas yn datgelu mwy ;-)

Wednesday Oct 16, 2024
Wednesday Oct 16, 2024
Cyfle i ddathlu rhaglen ddylanwadol a phoblogaidd, a hithau'n 50!
Atgofion auraidd.
Roedd y pod bach hwn yn rhan o ail bennod "Rhaglen Cymru" gyda'r Athro Jamie Medhurst - https://www.podbean.com/eas/pb-z99ja-16d6657
Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com
X/Twitter: @rhaglencymru FB @rhaglen.cymru

Saturday Oct 12, 2024
Saturday Oct 12, 2024
Sgwrs rhwng Andy Bell a Richard Wyn Jones, un o gymeriadau lliwgar sy'n gweithio y tu ôl i'r camerau.
Rheolwr llawr yw e ac mae e wedi gweithio ar lu o gynhyrchiadau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Richard hefyd yn hoff o'i hanes darlledu - jyst fel Andy!!
Dyma rai o'i erthyglau:
Tyfu lan gydag ITV https://transdiffusion.org/2005/09/03/memories
Diwedd TWW https://transdiffusion.org/2002/01/01/exit
Gyrfa Robin Jones https://transdiffusion.org/2006/06/03/robin_jones

Thursday Oct 10, 2024
Thursday Oct 10, 2024
Cyfle i glywed am fywyd y tu ôl i'r camerau yng nghwmni Richard Wyn Jones - rheolwr llawr, sydd wedi teithio y byd diolch i deledu.
Y bennod gyflawn yn cael ei rhyddhau ar Hydref y 12fed.

Saturday Oct 05, 2024
Saturday Oct 05, 2024
Mis Medi 2024 yw hanner canmlwyddiant sefydlu Sain Abertawe - gorsaf radio fasnachol gyntaf Cymru.
I nodi'r achlysur mae Siân Sutton wedi golygu cyfrol arbennig - "Chwyldro ym myd darlledu" (Gwasg Carreg Gwalch - https://carreg-gwalch.cymru)
Roedd Siân yn aelod o staff Sain Abertawe rhwng 1979 a 1982.
Wrth iddi adael daeth cyw-ddarlledwr o'r enw Andy Bell i weithio yno.
Yn y bennod hon mae Siân ac Andy'n rhannu atgofion ac yn ystyried pwysigrwydd Sain Abertawe - i ddarlledu'n gyffedinol AC i'w gyrfaoedd hwythau.
Cofiwch cysylltu: rhaglencymru"hotmail.com

Thursday Oct 03, 2024
Thursday Oct 03, 2024
Yr ail bodlediad am Sain Abertawe a sefydlwyd fel yr orsaf radio leol gyntaf yng Nghymru hanner canrif yn ol.
Y bennod yn llawn ar Hydref y 5ed!!