Episodes

Apr 3, 2026

20 min

Pennod ail-wampio arall wrth i Andy sôn am ei gyfnod gyda'r BBC yn ei swyddfeydd yn Heol Alecsandra Abertawe - adeilad a gaewyd y llynedd ar ddiwedd degawdau o ddarlledu.
Stori bersonol a hanes corfforaethol a geir!
Fe fydd Andy yn ôl o'i wyliau cyn hir.
rhaglencymru@hotmail.com
 

Mar 27, 2026

33 min

Pennod 'ail-wampio' arall, y tro hwn tipyn o hanes am ddarlledu etholiadaol a sgwrs yng nghwmni'r Athro Richard Wyn Jones am ei brofiadau o nosweithiau hir mewn stiwdio.
Mae Richard yn bennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru -  https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân rhaglenni etholiadol y BBC - 'Arthur' gan Rick Wakeman https://youtu.be/1XwqCFwv4uc?si=H-sx-Q0Zl9PYHK8K

Byrbod y BBC

Mar 26, 2026

Mar 26, 2026

5 min

Yn y bennod fer hon, Andy Bell yn trafod penodiad Matt Brittin fel pennaeth newydd y BBC.
Heriau A dyletswyddau i’r dyn a oedd yn rhan o dim rheoli Google.
rhaglencymru@hotmail.com
 
 

Mar 20, 2026

34 min

Cyfres 'Ail Wampio' yn dechreu gyda gwers hanes am ddarlledu cynnar yn Iwerddon - pennod sydd wedi derbyn enwebiad gan yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026.
Mae Raidió Teilifís Éireann yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni ... ac yr oedd y Gymraeg yn rhan o'r hanes hwnnw.
Dr Ffion Owen yw gwestai Andy Bell mewn trafodaeth am ddarllediad arbennig ar Fawrth y 4ydd, 1927.
Y perfformwyr oedd y Brodyr Francis a Gwladys Williams.
https://dyffrynnantlle.360.cymru/2021/cantorion-cyntaf-diwylliant-cymraeg
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: "Hall's Pictorial Weekly", Teledu RTÉ.
 

Byrbod Berkshire

Mar 18, 2026

Mar 18, 2026

4 min

Ymateb sydyn i ddwy stori ym mhapurau Llundain heddiw (Mawrth 18)
‘Byrbryd’ = snack felly ‘byrbod’ am bodlediad sydyn o lai na 5 munud a recordwyd yn Berkshire

Mar 13, 2026

35 min

Pennod amrywiol A chyffrous!!
Aled Jones o'r Y Pod Dot Cymru yw'r gwestai mewn 'Sgwrs Fawr' arall.  Ble mae'r digidol yn sefyll ar y tirwedd cyfryngol gyda dyfodol S4C a'r BBC dan y chwyddwydr?
Hefyd, mae Aled yn sôn am fenter newydd: Gwobrau Podlediadau Cymraeg - https://ypod.cymru/gwobrau
Mae'na sylw hefyd i ymateb S4C i'r ymgynghoriad ar Adolygiad Siarter y BBC. https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/66055/mae-s4c-yn-annog-llywodraeth-y-du-i-ddiogelu-darlledu-cymraeg-yn-adolygiad-siarter-y-bbc
Ymateb BBC Alba i'r un ymgynghoriad: https://mgalba.com/bbc-charter-renewal
Ac mae'na newyddion am y pod.  Mae 'Rhaglen Cymru' wedi derbyn dau enwebiad ar gyfer Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026. https://www.celticmediafestival.co.uk/nominees
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Awyddgân wreiddiol 'Sooty' (un o ffefrynau mawr plentyndod Andy!): https://youtu.be/qQ73gEcryho?si=h_zQ4wUEZLco0gP-
 
 
 
 
 
 
 

Wedi'i enwebu!!!

Mar 12, 2026

Mar 12, 2026

38 min

Dyma un o ddwy bennod 'Rhaglen Cymru' sydd wedi eu henwebu ar gyfer Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026!!!
https://www.celticmediafestival.co.uk/nominees 
Mae'r bennod hon am chwerthin ... a ydy'r Gymraeg yn ddoniol?
Yr awdur Mike Parker yn trafod agweddau tuag ati gan raglenni comedi Seisnig ar y radio a theledu.
Fe gewch glywed enghreifftiau o "ffraethineb" dros y blynyddoedd hefyd!!
Mike yw awdur "Neighbours from hell?" a "All the Wide Border".
https://www.ylolfa.com/products/9780862436117/neighbours-from-hell
https://harpercollins.co.uk/products/all-the-wide-border-wales- england-and-the-places-between-mike-parker?variant=40267801690190
Fe fydd ail bennod enwebiedig 'Rhaglen Cymru' yn cael ei ail-ryddhau ymhen wythnos tra mae Andy ar ei wyliau. 
Ac mae'na bennod newydd sbon ar y ffordd !!!
Y gerddoriaeth gloi: "Glitter & Be Gay" - arwyddgân sioe Dick Cavett, cerddorfa Bobby Rosengarden. 

Mar 6, 2026

48 min

Pennod hir AC amrywiol.
Gweithgareddau PEDAIR plaid wrth i ymgyrch etholiad Senedd Cymru boethi - oes 'na sôn am faterion cyfryngol? 
Sylw hefyd i ymateb y BBC i'r papur gwyrdd ar ddarlledu cyhoeddus - 'BBC i Bawb'.
Ac fel cyd-bwysedd i'r areithio ac ati, 'Y Sgwrs Fawr' ddiweddara - Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith yn cynnig syniadau ar gyfer dyfodol cyfryngau Cymraeg.
Gwrandewch, rhannwch, tanysgrifiwch
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi:  Arwyddgân 'Carry On Constable' https://youtu.be/vkDuU4wAHlw?si=zShmjOIly_HyhcqE 

Dathlu Dewi

Feb 27, 2026

Feb 27, 2026

33 min

Cyfle i nodi hanes Gŵyl Ddewi blwyddyn arbennig iawn.
Andy yn olrhain hanes yr allbwn radio a theledu 1958 ynghyd â'i gyd-destun.
Roedd y diwrnod ei hunan bach yn siomedig o ran cynnwys, ond o fewn dyddiau daeth rhaglen Gymraeg syfrdanol o lwyddiannus i deledu'r DU - 'Gwlad Y Gân'.
A'r gân ar ddechreu'r pod? Neb llai na Dominico Modugno yn canu 'Nel Blu Dipinto Di Blu' AKA 'Volare'!
https://youtu.be/9DPAb9-Stmo?si=cTJmIYII6rT7ar_T
rhaglencymru@hotmail.com 
 

Tipyn o bopeth

Feb 20, 2026

Feb 20, 2026

11 min

Pennod fer gyda gwahanol eitem o fyd darlledu yr Ynysoedd Prydeinig.
Ac mae teitl y bennod yn golygu rhywbeth hanesyddol i Andy - roedd ganddo raglen ddwyieithog wythnosol ar Radio Prifysgol Abertawe yn y 70au yn dwyn yr un enw.
Roedd 'ToB' yn gyfle i fynd i bob cyfeiriad heb chwilio'n ormodol am naratif!!
rhaglencymru@hotmail.com
 
 
 

Dafydd Y Bîb

Feb 13, 2026

Feb 13, 2026

36 min

Dafydd Meredydd yw gwestai'r podlediad y tro hwn.
Mae'n trafod ffigurau gwrandio Radio Cymru, yr her digidol ac ambell i elliffant yn yr ystafell!!!
Pennod fatha sgwrs arferol a 'Sgwrs Fawr' fer!!!!
rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad
Cerddoriaeth gloi: Picocchio's Picnic (arwyddgân 'Helo Bobol')
https://youtu.be/7Q-ZboEVRO0?si=zvN-7jsuTfTcnfZW
 

Pennod Nesaf Y Pod

Feb 10, 2026

Feb 10, 2026

1 min

Rhagflas o'r sgwrs gyda Dafydd Meredydd, BBC Cymru.
rhaglencymru@hotmail.com

Feb 6, 2026

35 min

Bethan Kilfoil, un o hoelion wyth ystafell newyddion RTÉ, darlledwr cyhoeddus Iwerddon, yn ymuno â'r pod i drafod yr Ynys Werdd, y profiad o ohebu'n Gymraeg o dramor a llawer mwy.
Mae Bethan yn gyfranwraig gyson i gylchgrawn 'Barn'.
Mwy am hanes cynnar RTÉ: https://www.rte.ie/brainstorm/2025/1229/1543306-2rn-rte-radio-launch-new-years-day-1926-seamus-hughes/
A'r cysylltiad Cymreig a Chymraeg:
https://rhaglencymru.podbean.com/e/2rn-dulyn-ar-gymraeg/
https://rhaglencymru.podbean.com/e/darllediad-dulyn-y-ffeithiau/
https://rhaglencymru.podbean.com/e/yr-ynys-werdd-diweddglo/
Cerddoriaeth gloi:  "O'Donnell Abú" gan y Number One Army Band. https://youtu.be/wsyiqNrupuA?si=DGA8ILcacVJL1u1s
rhaglencymru@hotmail.com
 

Jan 30, 2026

28 min

Dr. Dyfrig Jones o Brifysgol Bangor sy'n lansio ein cyfres achlysurol lle mae'na gyfle i wyntyllu syniadau am ddyfodol cyfryngau cyhoeddus.
Y sgwrs hon yn cynnig cyd-destun a syniadau gwreiddiol am sut i ddiogelu'r sector sy'n gyfan gwbl allweddol i ffyniant y Gymraeg.
Dyma fwy am Dyfrig: https://research.bangor.ac.uk/cy/persons/dyfrig-jones
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi ac arwyddgân cyfres 'Y Sgwrs Fawr' - thema chwedlonnol newyddion yr ABC, darlledwr cyhoeddus yn Awstralia ers 1932 ac yn gyn-gyflogwr i Andy Bell!
'Majestic Fanfare': https://youtu.be/J3yGMjt_xko?si=jp7tplvz9xfiGqWr
 
 
 

Jan 23, 2026

28 min

Adroddiad am gyfarfod Bwyllgor Diwylliant Seenedd Cymru 22ain Ionawr, lle bu'r BBC, S4C ac Ofcom yn cyflwyno tystiolaeth.
Y bennod hon yn rhan o sylw'r podlediad i'r drafodaeth am y BBC, S4C a chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.
Mwy am y cyfarfod: https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=742&MId=15712&Ver=4
Cerddoriaeth gloi: 'Scandanavian Shuffle' gan Swe Danes #bwriadol  https://youtu.be/gVRHbME3X98?si=Ds6sQOiJuJSERU5m 
Os am gyfrannu i'r 'Sgwrs Fawr' am ddyfodol cyfryngau cyhoeddus cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com