Episodes

Y Ddau Andy

Jan 16, 2026

Jan 16, 2026

32 min

Andy Walton AKA'r Welsh Whisperer yw'r gŵr gwadd - mae'n trafod cyflwr adloniant Cymraeg, pwysigrwydd y rhaglen 'Sgorio' i chwarewyr pêl-droed uchelgeisiol a llawer mwy.
https://www.welshwhisperer.cymru
Hefyd mae'na sôn am welliannau i wasanaethau sain BBC Cymru i'r Cymry alltud, Andy yn cael ei gyhoeddi yn Iwerddon a diwedd radio Rwseg yn Latfia.
Erthygl Saesneg am y Gymraeg ar radio Dulyn yn y 1920au: https://historyireland.com
Podlediadau ar y pwnc:
https://rhaglencymru.podbean.com/e/2rn-dulyn-ar-gymraeg/
https://rhaglencymru.podbean.com/e/darllediad-dulyn-y-ffeithiau/
https://rhaglencymru.podbean.com/e/yr-ynys-werdd-diweddglo/
Erthygl yn yr 'Economist' am radio Latfia: https://www.economist.com/europe/2026/01/08/latvia-is-needlessly-alienating-its-russian-speakers?giftId=OTNhMTg3ZDAtMjcyNy00ODk2LWI0NjctOGM4OTM2ODhhNjkw&utm_campaign=gifted_article
Cerddoriaeth gloi: 'Raganu Nakts' gan Tautumeitas:  https://youtu.be/LsgO5OTUsRU?si=bGShN_S33YUiYZrb
rhaglencymru@hotmail.com
 
 

Jan 14, 2026

3 min

Pod fer iawn am welliannau i arlwy Cymraeg y BBC i'r bobl sy'n byw dramor.
Mae'r hafan "Gwrando Rhyngwladol" yn awr yn fyw ar wefan ac ap Cymru Fyw!!!
Er mwyn cynnig cymorth mae Andy yn cynnal gwers fach am sut i gyrraedd y cynnwys.
Mae criw BBC Cymru wedi gwenud ymdrech arbennig i wella sefyllfa druenus yn sgîl tawelu BBC Sounds yn fyd eang.  Diolch iddnyt.
Rhagor gan Andy yn y bennod go iawn nesaf o 'Rhaglen Cymru' fydd ar gael diwedd yr wythnos gydag Andy arall.  Fe fydd Andy Walton AKA 'Welsh Whisperer' yn westai mewn trafodaeth am sefyllfa adloniant Cymraeg a llawer mwy.
rhaglencymru@hotmail.com
 

Jan 9, 2026

18 min

Wrth ddechreu trafodaeth am batrwm cyfryngau cyhoeddus yn y dyfodol dyma ail ymweliad âg archif 'Rhaglen Cymru'.
Cofiwch rannu a thanysgrifio i'r podlediad.
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Jack The Ripper - Barlow & Watt'.  Cyfres ddifyr tu hwnt o 1973!!! https://youtu.be/i3GYcqqR6LM?si=Z8c6As7Ch-9fDisg
 
 

Jan 3, 2026

20 min

Mae darlledu cyhoeddus yn y fantol eleni.
Cyhoeddwyd papur gwyrdd am ddyfodol y BBC cyn y Nadolig, nawr mae'na gyfnod o ymgynghori cyn creu cynigion am natur cyfryngau cyhoeddus.
Gyda'r Gymraeg (a'r Gaeleg) yn llwyr ddibynnol ar arian cyhoeddus am ei lle yn y byd darlledu a digidol fe fydd canlyniadau'r drafodaeth am y BBC ymhellgyrhaeddol.
Bwriad Rhaglen Cymru yw cynnig llwyfan i'r drafodath hon - os am gyfrannu cysylltwch trwy rhaglencymru@hotmail.com 
Y papur gwyrdd (fersiwn Gymraeg):  https://www.gov.uk/government/consultations/britains-story-the-next-chapter-the-bbc-royal-charter-review-green-paper-and-public-consultation/stori-prydain-y-bennod-nesaf-yr-adolygiad-o-siarter-frenhinol-y-bbc-papur-gwyrdd-ac-ymgynghoriad
Y papur gwyrdd gyda holiadur (fersiwn Saesneg): https://www.gov.uk/government/consultations/britains-story-the-next-chapter-the-bbc-royal-charter-review-green-paper-and-public-consultation/britains-story-the-next-chapter-bbc-royal-charter-review-green-paper-and-public-
 

Rhys Mwyn

Jan 1, 2026

Jan 1, 2026

30 min

Sgwrs am bob math o bethe gyda Rhys Mwyn.
Dechreuad arbennig i 2026.
Trafod iechyd meddwl, cyflwr cerddoriaeth yng Nghymru a'r weithred o guradu rhaglen wythnosol a chymuned y rhaglen honno.
rhaglencymru@hotmail.com

Dec 28, 2025

25 min

Y Pod dog cyntaf yn hanes Rhaglen Cymru yw hwn  ... a dyma gyfle i'w glywed unwaith eto.
Andy yn adrodd hanes y gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf - y bwletin am bump adeg yr Ail Ryfel Byd.
Cynnig am gystadleuaeth Eisteddfodol oedd y sgript yn wreiddiol - dim teilyngdod !! 
Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com
 

Harry Secombe

Dec 25, 2025

Dec 25, 2025

43 min

Pennod swmpus o bod dog (podlediad dogfennol) gan Andy am y Cymro a Goon Harry Secombe.
Trwy ei wybodaeth o'r Goon Show ac Abertawe + gwaith ymchwil gwreiddiol a bach o bendroni mae e'n ceisio gosod un o Gymry amlyca cyfryngau'r canrif ddiwethaf yn ei gyd destun Cymreig.
Cerddoriareth gloi: 'Lucky Strike', un o arwyddgâneoun y Goon Show.
Mwy am y Goons: https://goonshow.org
A'r podlediad amdanynt, Goon Pod: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/goon-pod/id1569929507
Rhifyn o'r podlediad hwnnw gydag Andy yn westai ... am acen!!!: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/a-christmas-carol/id1569929507?i=1000680791861
rhaglencymru@hotmail.com 
 
 

Dec 24, 2025

21 min

Cyfarchion y tymor oddi wrth Andy B yn Canberra bell.
Cân arbennig Ryan Davies 'Nadolig - Pwy a wyr?' yn fframio taith i'r archifau.
Sut Nadolig a gafwyd cyn dyddiau Radio Cymru a S4C?
O 1923 i ganol y 70au mae Andy yn trafod peth o'r hanes.
Addasiad o bennod a ryddhawyd yn 2024.
rhaglencymru@hotmail.com
Ac os am bodlediad arall sy'n dathlu darlledu, ac un rhaglen yn arbennig, rhowch gynnig ar "Goon Pod" lle mae Andy yn westai'n trafod "A Christmas Carol".
https://podcasts.apple.com/au/podcast/goon-pod/id1569929507
 
 

Dec 19, 2025

37 min

Sgwrs gydag Alun Ffred Jones am ei gyfrol 'O Fôn i Fynwy - Cofio Vaughan Hughes' a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
"Doedd o ddim ofn ei dweud hi fel yr oedd hi. Mi ges i bleser mawr yn dilyn ei siwrnai ddifyr, a dethol peth o’i waith ar gyfer y gyfrol hon," - Alun Ffred Jones.
Hanesion difyr a dalennol + tipyn o sgwrs am bwysigrwydd cyfryngau cyhoeddu parthed y Gymraeg.
Y llyfr: https://carreg-gwalch.cymru/products/o-fon-i-fynwy-cofio-vaughan-hughes
rhaglencymru@hotmail.com

Dec 17, 2025

10 min

Podlediad sydyn i gyhoeddiad papur gwyrdd llywodraeth y DU am ddyfodol y BBC.
Y papur gwyrdd (fersiwn Gymraeg):  https://www.gov.uk/government/consultations/britains-story-the-next-chapter-the-bbc-royal-charter-review-green-paper-and-public-consultation/stori-prydain-y-bennod-nesaf-yr-adolygiad-o-siarter-frenhinol-y-bbc-papur-gwyrdd-ac-ymgynghoriad
Y papur gwyrdd (fersiwn Saesneg): https://www.gov.uk/government/consultations/britains-story-the-next-chapter-the-bbc-royal-charter-review-green-paper-and-public-consultation/britains-story-the-next-chapter-bbc-royal-charter-review-green-paper-and-public-
rhaglencymru@hotmail.com

Dec 12, 2025

34 min

Hanner awr bywiog a dadlennol wrth i Stifyn ac Andy drafod y rhaglen 'Paid  Dweud Hoyw' a llawer mwy.
Atgofion Stifyn am yr operau sebon 'Coleg' a 'Brookside'', a chyngor am sut i fentora.
Mwy am y gusan arbennig ar 'Brookside' ar Sianel 4/S4C: https://ianphillipssite.wordpress.com/2019/03/01/an-interview-with-stifyn-parri-brookside-memories
Aduniad 'Brookside': https://youtu.be/jKjR6Mylqzc?si=pwz-Pf_Enaz3IQyI
A mwy am 'Coleg': https://y-cyfryngau-cymraeg.fandom.com/cy/wiki/
Gwefan Stifyn: https://www.mrproducer.co.uk/cymraeg
rhaglencymru@hotmail.com

Dec 11, 2025

13 min

Pennod sydyn arall.
Er cof Sulwyn Thomas a'r diweddara am yr Ewrodeledu.
Sulwyn: https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/ckgl62008rmo
Generacja '42 gan Korni Grupa: https://youtu.be/4y8ySFKIEkc?si=QA5dQuEe2u4XXKgf
12fed yn Eurovision 1974 ... a ennillwyd gan ABBA. 
 
 

Hel straeon

Dec 5, 2025

Dec 5, 2025

34 min

Mae Nia Thomas, un o dîm y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, yn westai i Andy y tro hwn.
Mae'r pâr yn trafod eu cyfarfod cyntaf yn ystod is-etholiad pwysig, natur newyddiaduraeth a'u bôs gwreiddiol yn y BBC.
Sgwrs ddadlennol a difyr.
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân wreiddiol 'Y Dydd' TWW.
rhaglencymru@hotmail.com

Dec 5, 2025

26 min

Pedair gwlad wedi tynnu allan o Ewrodeledu/Eurovision 2026 oherwydd presenoldeb Israel.
A fydd 'na ragor?
Ymateb sydyn gan Andy + cyfle i glywed am hanes amrywiol yr ESC.
Datganiad Undeb Darlledu Ewrop/EBU: https://www.eurovision.com/newsroom/ebu-members-support-reforms-to-eurovision
Datganiad RTÉ: https://about.rte.ie/2025/09/11/rte-statement-2026-eurovision-song-contest
Ragor o straeon: https://www.rte.ie/entertainment/2025/1204/1547300-rte-to-boycott-eurovision-song-contest-over-israel
https://www.rte.ie/news/2025/1204/1547364-eurovision-analysis
https://newyddion.s4c.cymru/article/31721
https://www.timesofisrael.com/israel-cleared-for-eurovision-2026-in-ebu-vote-netherlands-spain-ireland-slovenia-quit
Daw hanes yr Ewrodeledu o bennod y podlediad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025.
rhaglencymru@hotmail.com
 

Rownd A Rownd @30

Nov 28, 2025

Nov 28, 2025

26 min

Cyfle i ddathlu gwaith arbennig criw 'Rownd A Rownd' - y ddrama boblogaidd sy'n dathlu ei phenblwydd yn 30 oed eleni.
Mae Llio Non wedi gweithio ar y rhaglen am dipyn - o flaen y camera ac y tu ôl iddo.
Hi yw golygydd cyfrol dathlu https://www.ylolfa.com/products/9781800997622/rownd-a-rownd-yn-dathlur-30
A dyma dudalen You Tube y gyfres: https://www.youtube.com/@RowndaRownd
Cerddoriaeth gloi: Thema diweddara'r gyfres.
rhaglencymru@hotmail.com