Episodes

Saturday Feb 22, 2025
Saturday Feb 22, 2025
Mae'r podlediad yn nodi ddiwrnod olaf Capital Cymru ac yn trafod dylanwad a gwaddol radio masnachol yn y Gymraeg dros hanner canrif.
Oes gobaith am blwraliaeth yn narlledu Cymraeg?
Beth am y busnes datganoli radio a'r teledu?
O Sain Abertawe ym 1974 i Capital Cymru yn 2025, mae'r cyfrwng arbennig hwn wedi diddanu a gwasanaethu.
Dyma gyfle i'w ddathlu a meddwl am y dyfodol.
00:00 Dechreu a diwedd radio lleol Cymraeg - bach o hanes
04:40 Diwrnod olaf Capital Cymru
10:15 Sgwrs gyda Wyn Thomas, pennaeth rhaglenni Cymraeg cyntaf Sain Abertawe
29:15 Sgwrs gyda Siân Sutton, golygydd "Chwyldro ym myd darlledu" - cyfrol am ddechreuad a thwf radio masnachol Cymraeg
https://carreg-gwalch.cymru/collections/llyfrau-oedolion/products/chwyldro-ym-myd-darlledu
43:15 Andy yn datgan ambell i farn!!!
49:35 Diweddglo ...
rhaglencymru@hotmail.com

Saturday Feb 22, 2025
Saturday Feb 22, 2025
Tamaid i aros pryd ... y geiriau Cymraeg olaf ar donfeddi radio masnachol Cymru.
Fe fydd 'na pennod estyniedig o'r podlediad ar gael bore fory.
/newyddion.s4c.cymru/article/26673

Thursday Feb 20, 2025

Saturday Feb 15, 2025
Saturday Feb 15, 2025
Ffurf wahanol o bodlediad y tro hwn.
Ar ôl mis o rannu'r newyddion diweddara am dranc radio masnachol Cymraeg mae Andy Bell yn mynd 'nôl i'w orffennol.
Daeth atgofion llu wrth iddo weld diwedd canolfan y BBC yn Abertawe - ac yn y bennod mae'n adrodd peth hanes o'i hanes yn 32 Heol Alecsandra.

Thursday Feb 13, 2025
Thursday Feb 13, 2025
Yn y bennod nesaf o Rhaglen Cymru mae Andy yn crwydro ar hyd llwybr arbennig o ran ei yrfa.

Saturday Feb 08, 2025
Saturday Feb 08, 2025
Roedd cau drysau 32 Heol Alecsandra Abertawe yn ddiwedd cyfnod yn narlledu Cymreig a Chymraeg.
Lyn T. Jones yw gŵr gwadd y podlediad ac mae e'n rhannu hanes y lle ac ei farn am safle Abertawe ar dirwedd darlledu Cymreig.
Mae gan Lyn hefyd bethe i'w dweud am cyflwr radio a theledu yn y Gymraeg yn sgîl y bwriad i gau Capital Cymru.
Rhagor am Abertawe a darlledu gan Alun Thomas. https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cwydgyn4x07o
Delweddau o'r adeilad: https://coflein.gov.uk/en/site/545063
Ac mae gan Andy y diweddara am Capital.
Pennod hir arall!!
01:00 Lyn T. Jones
37:20 Global, RAJAR a Golwg.

Thursday Feb 06, 2025
Thursday Feb 06, 2025
Lyn T. Jones fydd yn trafod hanes datblygu darlledu yn Abertawe a'r ganolfan arbennig y BBC sydd newydd gau - 32 Heol Alecsandra.
Bu Lyn ac Andy yn gyd-weithwyr yno yr 80au.

Saturday Feb 01, 2025
Saturday Feb 01, 2025
Gohebydd wrth reddf oedd Alun Lenny cyn newid cyfeiriad ei fywyd.
Sgwrs am oes newyddiadura a fu rhyngddo fe ac Andy ... ynghyd âg ambell i bwnc arall.
Dyma fwy am Alun: https://www.ylolfa.com/awduron/1049/alun-lenny
Hefyd, mwy o Senedd Cymru am sefyllfa Capital Cymru a radio masnachol Cymraeg.
01:00 Sgwrs gydag Alun Lenny
30:45 OFCOM yn ymateb i GYIG
34:10 Capital yn y Senedd ... rhagor o gwestiynau
rhaglencymru@hotmail.com

Thursday Jan 30, 2025
Thursday Jan 30, 2025
Cyn-ohebydd, cynghorydd sir a phregethwr - Alun Lenny yw gwestai nesaf y podlediad.
Hefyd, unrhyw newyddion ffres am sefyllfa Capital Cymru.

Friday Jan 24, 2025
Friday Jan 24, 2025
Pennod hir arall gyda helynt Capital Cymru a'i sgîl-effeithiau'n denu sylw.
Mae'na ymweliadau i Senedd Cymru, sgwrs gyda Carl Morris (@carlmorris) o Gymdeithas yr Iaith a thipyn o Andy'n dweud ei ddweud!!!
Mwy am GYIG a cholli'r Gymraeg ar Capital Cymru https://cymdeithas.cymru/newyddion/global
TREFN Y POD
0:00 Dechreu'r bennod
01:00 Y diweddara am Capital Cymru
03:00 Newyddion o'r senedd #1 ... a bach o gyd-destun ;-)
07:00 Gohebiaeth rhwng CYIG a Global (perchnogion Capital Cymru)
12:00 Sgwrs gyda Carl Morris
40:40 Tri pheth pwysig gan Andy: gan gynnwys geiriau Global, Newyddion o'r senedd #2 a ffigurau sy'n dweud cyfrolau.
49:00 Diweddglo cerddorol sy'n dathlu hanes ITV gan un o enwau mawr y BBC!
I gysylltu â'r podlediad: rhaglencymru@hotmail.com