Episodes

Monday May 18, 2026
Monday May 18, 2026
Ar ôl gwylio'r Ewrodeledu am bump y bore yn Oz, mae Andy wedi deffro o'r diwedd i gynnig ychydig o ddadansoddiad o'r gystadleuaeth eleni ... a chodi ambell bwynt am ei dyfodol.
rhaglencymru@hotmail.com

Saturday May 16, 2026
Saturday May 16, 2026
Y podlediad newydd ddathlu cyhoeddi CANT o bennodau cyflawn.
Dyma wibdaith trwy'r archif ...
Mae'r pod yn ôl ar Facebook - chwiliwch am 'Podlediad Rhaglen Cymru'.
Y bennod nesaf i'w ryddhau ddydd Llun - Gwaddol yr Ewrodeledu
rhaglencymru@hotmail.com

Thursday May 14, 2026
Thursday May 14, 2026
Mirain Owen yn dathlu cyfraniad y papurau bro ac yn cynnig syniadau am eu hesblygu yn yr oes digidol.
Dyma eu hysgrif amdanynt: https://inclusivejournalism.cymru/blog/papurau-bro-y-newyddiaduraeth-fwyaf-cynhwysol-yn-y-byd
Mae cyfraniad Mirain i'r pod yn rhan o'r 'Sgwrs Fawr' am ddyfodol y cyfryngau.
A mwy am newyddiaduraeth gynhwysol fan hyn:
https://inclusivejournalism.cymru/ynghylch/?lang=cy
Cerddoriaeth gloi: 'Canción Cubana' - arwyddgân rhaglenni radio Edmundo Ross: https://youtu.be/qj4tay6YbVM?si=71tdEiQe_y-ZSaNh
rhaglencymru@hotmail.com am sylwadau a syniadau.

Monday May 11, 2026
Monday May 11, 2026
Byrbod arall ... mae'na lawer yn digwydd ...
Andy yn datgan ei safbwynt a'i ymateb i rai o raglenni rhwydwaith y BBC yn sgîl yr etholiad yng Nghymru.
Dyw e ddim yn impressed a ddweud y lleiaf!
rhaglencymru@hotmail.com am eich ymateb chi!!!

Saturday May 09, 2026
Saturday May 09, 2026
WAW!!!!!
Canlyniad hanesyddol, cyfnod newydd ar y gweill.
Ond sut wnaeth y cyfryngau Cymraeg gyfrannu i'n democratiaeth?
Andy Bell yn pwyso a mesur y llwyfannau a'u perfformiadau.
rhaglencymru@hotmail.com

Thursday May 07, 2026
Thursday May 07, 2026
Yr Eurovision 2026!!!
Elfed Morgan Morris ac Andy yn pwyso a mesur y caneuon a sôn am y pethe sy' ddim yn ymwneud â'r ochr gerddorol.
Sylw i wythnos yr Ewrodeledu - beth yw eich ffefryn chi o'r 35 cân?
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Hemvärnets Musikkår Göteborg yn chwarae cynnig Sweden yn Eurovision y llyneddd 'Bara Bada Bastu'. Band pres yn dangos hyblygrwydd yr alaw - hen draddodiad yr Ewrodeledu yw ail-feddwl caneuon.
https://youtu.be/fXXtCGM9vVo?si=p_Ja3WG4pWlMEPdU

Wednesday May 06, 2026
Wednesday May 06, 2026
Wrth aros am etholiad Senedd Cymru. beth am glywed hanes sefydlu sefydliad yr un mor gwleidyddol (a dadleuol)- sef yr Eurovision Song Contest!!!
Mae Andy yn trafod hanes y rhaglen unigryw hon a ddechreuodd ym 1956.
Fe grëwyd y bennod hon yn 2025, mae hi wedi ei haddasu i sôn am y diweddara am bresenoldeb ddadleuol Israel yn yr Ewrodeledu.
Hefyd mae Vaughan Roderick, Siân Lloyd a Gareth Potter yn sôn am eu 'perthynas' â'r 'Concours Eurovision de la chanson'.
Rhagolwg 2026 ar y ffordd.
Beth amdanoch xhi? Hoff ganeoun erioed a 2026?
Cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com
A chaneuon y diweddglo:
1965: Lwcsembwrg https://youtu.be/PyFnDf8PvmU?si=tZlBcx0eCWw6Chsg
1975: Yr Iseldiroedd https://youtu.be/BPxuq4uQ0OU?si=A7xTDDJxt_mL1oYG
1985: Norwy https://youtu.be/U94_AErNBZU?si=TDq8HpDxQRqbBHIU
1995: Norwy https://youtu.be/u-gA0aU-d88?si=ixIEcS5Oc_5tB4CC
2005: Gwlad Groeg https://youtu.be/__R-r2t0vSU?si=RVjyR0hQGt99T_3q
2015: Sweden https://youtu.be/5sGOwFVUU0I?si=33x2u8dYFyh48hz4

Thursday Apr 30, 2026
Thursday Apr 30, 2026
Ar drothwy etholiad hanesyddol yng Nghmru pwy gwell i dreulio hanner awr yn ei gwmni na Vaughan Roderick!
Atgofion o raglenni a fu, technoleg da a drwg a llawer mwy.
Mae gan Vaughan (ac eraill) ei bodlediad ei hunan, 'Gwleidydda': https://www.bbc.co.uk/programmes/b007sy31
Unhyw sylwadau am sut mae'r gohebu ar yr ymgyrch wedi bod???
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Clochemerle' (bbc 1972) https://youtu.be/Qx2V-rerX7c?si=4dm6SrIAKj3CtP8w

Friday Apr 24, 2026
Friday Apr 24, 2026
Eitemau amrywiol a geir unwaith eto yn y pod.
Y sgwrs: Garmon Gruffudd, pennaeth Gwasg y Lolfa.
Hefyd, trafod cyfraniad Richard Rees ac radio ysbyty + ambell i sylw gan Andy am ei brofiadau diweddar yng Nghymru.
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân cyfres ddrama "Airline" https://youtu.be/bkDSwVWYNQM?si=U_YPb2qTd0Bb88Kf

Friday Apr 24, 2026
Friday Apr 24, 2026
Pod sydyn yn ystyried rhaglen 'Y Ddadl Fawr'.
Dyma'r rhaglen: https://www.youtube.com/live/xvE_7Og4KeU?si=fEd0m-TpUxLNZpGf
Dyma'r 'Stafell Sbin': https://www.youtube.com/live/doUzn3Ld6go?si=f6NixhJOSuVdMI9V
Dyma bodlediad ymated 'Gwleidydda': https://bbc.com/audio/play/p0ng8jgj
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân wreiddiol 'Four Corners', fersiwn Awstralia o'r 'Byd Ar Bedwar' a 'Panorama': https://youtu.be/tpVzlbruDeQ?si=Od8hnfXDrDuK-R1O




