Episodes
Saturday Jan 04, 2025
Saturday Jan 04, 2025
Un, fel Andy Bell, sydd wedi dehongli newyddion o bell ar gyfer cynulleidfa Gymraeg dros y blynyddoedd yw Karl.
Mae ganddo brofiad hir ym maes darlledu fel gweithiwr, gweinyddwr a defnyddiwr.
Ac mae ei amser yn trigo yn Tseina wedi newid ei farn am y cyfryngau mewn sawl ffordd.
Sgwrs ddi-flewyn ar dafod a geir wrth lansio ail flwyddyn y podlediad.
Cerddoriaeth gloi: Cerddoriaeth wedi cwymp y llenni o "Into The Woods".
Thursday Jan 02, 2025
Thursday Jan 02, 2025
Karl Davies yn trafod ei brofiad o fyw yn Tseina a'i farn am gyflwr darlledu cyhoeddus nes adre.
Saturday Dec 28, 2024
Saturday Dec 28, 2024
Cyfle arall i glywed stori am sefydlu'r gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf.
(Mae Andy wedi gweithio trwy hud a lledrith digidol i drwsio ansawdd y sain o'r bennod wreiddol)
Wednesday Dec 25, 2024
Wednesday Dec 25, 2024
Cân arbennig Ryan Davies 'Nadolig - Pwy a wyr?' yn fframio taith i'r archifau.
Sut Nadolig a gafwyd cyn dyddiau Radio Cymru a S4C?
O 1923 i ganol y 70au mae Andy yn trafod peth o'r hanes.
Ac os am bodlediad arall sy'n dathlu darlledu, ac un rhaglen yn arbennig, rhowch gynnig ar "Goon Pod" lle mae Andy yn westai'n trafod "A Christmas Carol".
https://podcasts.apple.com/au/podcast/goon-pod/id1569929507
Monday Dec 23, 2024
Saturday Dec 21, 2024
Saturday Dec 21, 2024
Mae'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod hynt a helynt nosweithiau etholiadol mewn stiwdios teledu a llawer mwy.
Mae Richard yn bennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru - https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre
Cerddoriaeth gloi: Chrim-Flow gan Mr Phormula
Wrth ddathlu'r Nadolig mae'na gyfle i glywed Andy ar bodlediad "Goon Pod" yn sgyrsio gyda Tyler Adams am "A Christmas Carol" gan Spike Milligan. https://podcasts.apple.com/gb/podcast/a-christmas-carol/id1569929507?i=1000680791861
Thursday Dec 19, 2024
Thursday Dec 19, 2024
Arbennigwr gwleidyddol a darlledwr o fri.
Yr Athro Richard Wyn Jones yw gwestai nesaf y podlediad.
Fe yw pennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre
Saturday Dec 14, 2024
Saturday Dec 14, 2024
Sylw manwl i ddarllediad Cymreig o 2RN Dulyn a anelwyd at y Cymry ym 1927.
Adloniant A gweithred i godi cywilydd ar y BBC!!
Dr Ffion Owen yw gwestai Andy Bell - mae hi wedi dod o hyd i lawer o wybodaeth am y darllediad arbennig hwn a'i berfformwyr: Y Brodyr Francis a Gwladys Williams.
https://dyffrynnantlle.360.cymru/2021/cantorion-cyntaf-diwylliant-cymraeg
Mae'r podlediad aml-ran yn trafod tystiolaeth ac ymchwil newydd sy'n codi mwy nag un cwestiwn!
Cerddoriaeth gloi: "Hall's Pictorial Weekly", Teledu RTÉ.
Thursday Dec 12, 2024
Thursday Dec 12, 2024
Mwy byth o hanes y darlledu Cymreig a Chymraeg o Iwerddon yn y 1920au.
Mae'r rhan gyntaf fan hyn: https://www.podbean.com/eas/pb-8ni3u-175a59f
Tuesday Dec 10, 2024
Tuesday Dec 10, 2024
Mae gan "Rhaglen Cymru" gopi sbâr o 'Chwyldro ym myd darlledu' - llyfr am orsaf radio annibynnol gyntaf Cymru a olygwyd gan Siân Sutton.
A hoffech ei gael e??!!!
Y cyfan sydd rhaid i chi wenud yw danfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol:
Chwiliwch am "Rhaglen Cymru" ar yr Awyr Las (BlueSky), Facebook a x/Twitter.
Neu ddanfonwch e-bost at rhaglencymru@hotmail.com
https://carreg-gwalch.cymru/products/chwyldro-ym-myd-darlledu