Episodes

Tuesday Jan 21, 2025
Tuesday Jan 21, 2025
Wrth symud ymlaen o'r newyddion am gau Capital Cymru, sut siâp fydd ar y cyfryngau Cymraeg yn gyffredinol?
Ai canari yn y gawell yw Capital?
Rhagflas o'r bennod nesaf

Saturday Jan 18, 2025
Saturday Jan 18, 2025
Mae Rhaglen Cymru yn mynd ar drywydd y penderfyniad i ddod â rhaglenni Cymraeg Capital Cymru i ben erbyn diwedd mis Chwefror.
Fe fydd un o gadarnleoedd y Gymraeg yn colli gorsaf radio leol ar ôl cwarter canrif o ddarlledu o dan wahanol enwau.
Pam y penderfyniad ‘nawr?
Beth yw'r sgîl-effeithiau?
Ai datganoli darlledu yw'r ateb mewn oes o heriau ariannol a thechnolegol?
Fe gewch glywed gan gohebydd BBC David Grundy, y "Welsh Whisperer" a Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith a chyn-ohebydd y BBC, sydd bellach yn gynghorydd sir, Alun Lenny.
Oes rhywbeth 'da chi ddweud am y sefyllfa? Yr e-bost yw rhaglencymru@hotmail.com.
Hefyd, mae Andy yn sôn hefyd am fenter newydd radio newydd arfaethedig "Sŵn Cymru" - dyma ei gwefan: https://swn.cymru/cy

Friday Jan 17, 2025
Friday Jan 17, 2025
Pennod "ar frys" gyntaf Rhaglen Cymru ... ac un hirach nag arfer hefyd!!
Dadansoddi diwedd rhaglenni Cymraeg ar radio masnachol Capital Cymru - dyma ragflas ohoni.
Sut torrwyd y stori: https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cr4r473k931o

Wednesday Jan 15, 2025
Wednesday Jan 15, 2025
Gyda'r newyddion o ddileu rhaglenni Cymraeg Capital Cymru mae Andy am fynd mhellach na'r ffeithiau moel mewn pennod arbennig ... fe fydd'na un arall wythnos nesaf hefyd.
https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cr4r473k931o

Friday Jan 10, 2025
Friday Jan 10, 2025
Trafod y grefft o sylwebu ar chwaraeon, magwraeth arbennig ym maestrefi Llundain a chyfwelid rhyfedd - dyma rai o bynciau a drafodir yn y sgwrs rhwng Andy Bell a Gareth Blainey
Hefyd, ar ddechreu'r bennod mae AB yn sôn am y newyddion tor-calonnus am ddiwedd rhaglenni Cymraeg Capital.
Darllenwch am yrfa Gareth fan hyn: https://www.bbc.com/cymrufyw/55617928
A pheidiwch âg anghofio ei hunangofiant: https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781848517547/o-wembley-i-wembley-straeon-sylwebydd
Cerddoriaeth gloi: 'Sporting Occasion' (Thema diwedd darllediad Wimbledon yn y ganrif ddiwethaf!)

Thursday Jan 09, 2025
Thursday Jan 09, 2025
Y sylwebydd chwaraeon Gareth Blainey fydd gwestai nesaf Andy Bell.
Fe gafodd y pâr eu magwraeth drws nesaf i'w gilydd: y naill yng nghysgod tyrau stadiwm Wembley, y llall nid nepell o ysgol fonedd Harrow.

Saturday Jan 04, 2025
Saturday Jan 04, 2025
Un, fel Andy Bell, sydd wedi dehongli newyddion o bell ar gyfer cynulleidfa Gymraeg dros y blynyddoedd yw Karl.
Mae ganddo brofiad hir ym maes darlledu fel gweithiwr, gweinyddwr a defnyddiwr.
Ac mae ei amser yn trigo yn Tseina wedi newid ei farn am y cyfryngau mewn sawl ffordd.
Sgwrs ddi-flewyn ar dafod a geir wrth lansio ail flwyddyn y podlediad.
Cerddoriaeth gloi: Cerddoriaeth wedi cwymp y llenni o "Into The Woods".

Thursday Jan 02, 2025
Thursday Jan 02, 2025
Karl Davies yn trafod ei brofiad o fyw yn Tseina a'i farn am gyflwr darlledu cyhoeddus nes adre.

Saturday Dec 28, 2024
Saturday Dec 28, 2024
Cyfle arall i glywed stori am sefydlu'r gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf.
(Mae Andy wedi gweithio trwy hud a lledrith digidol i drwsio ansawdd y sain o'r bennod wreiddol)

Wednesday Dec 25, 2024
Wednesday Dec 25, 2024
Cân arbennig Ryan Davies 'Nadolig - Pwy a wyr?' yn fframio taith i'r archifau.
Sut Nadolig a gafwyd cyn dyddiau Radio Cymru a S4C?
O 1923 i ganol y 70au mae Andy yn trafod peth o'r hanes.
Ac os am bodlediad arall sy'n dathlu darlledu, ac un rhaglen yn arbennig, rhowch gynnig ar "Goon Pod" lle mae Andy yn westai'n trafod "A Christmas Carol".
https://podcasts.apple.com/au/podcast/goon-pod/id1569929507




