Rhaglen Cymru

Andy Bell a’i westeion yn dathlu a dadansoddi darlledu a chraffu ar y cyfryngau'n gyffredinol

Episodes

Latest Episodes

View all

2 days ago

55 min

Pennod hiiiiiiiiiir: sgwrs + tipyn o faterion cyfoes!!
01' 40" Tim Hartley yn trafod cyfathrebu pobl Bae Caerdydd a thrafferthion y BBC.
38' 45" Holi am ddatganoli darlledu yn Senedd Cymru.
44' 55" GB News yn y Bae.
50' 25" Diweddariad parthed polisi iaith GB Music Radio.
52' 40" Y BBC yn symud cynhyrchu newyddion dros nos o’r DU i Oz!
rhaglencymru@hotmail.com am sylwadau/syniadau
Substack dwyieithog: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m
https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m
Cerddoriaeth gloi: Cân Elyrch Sydney, tîm AFL y ddinas.  Er gwbodaeth gan gan BOB tim pêl-droed Awstralaidd eu cân eu hunan.
https://youtu.be/bI0JAFzTDXc?si=lvbHGCXSeQXGRsvn 
https://youtu.be/mF8E6ijvluM?si=lRLELUnVdfkX8wgC
 

2 days ago

55 min

6 days ago

14 min

Pennod PUM iaith!!
Datblygiadau cyfryngol yn y gwelydydd Celtaidd + cwmni GB News yn mynd yn gerddorol Brydeinig ... ond pa fath o Brydeinig?
rhaglencymru@hotmail.com am sylwadau a syniadau.
Cerddoriaeth gloi: https://youtu.be/R8vXnjU-oXo?si=rEoGRfHuVoNB3h5h
 
 
 

6 days ago

14 min

Oct 16, 2026

48 min

Roedd trychineb Aberfan yn achlysur a newidiodd newyddiadura yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Andy yn adrodd sut yr aeth y radio a theledu ati i ohebu a’r ymateb a gafwyd.
Dyma ei Substack Saesneg: https://rhaglencymru.substack.com/p/remembering-aberfan?r=ddc7m
Ac mewn sgwrs ddadlennol mae’r Athro Martin Johnes, cyd-awdur “Aberfan – Government and Disaster”, yn trafod rhan y cyfryngau yn y digwyddiad.
https://www.swansea.ac.uk/cy/staff/m.johnes
https://welsh-academic-press.shopfactory.com/contents/en-uk/p58_Aberfan
Yn Neuadd y Dref Melbourne cynhelir digwyddiad arbennig i nodi 60 mlynedd ers Aberfan, sef pefformiad cyflawn cyntaf “Cantata Memoria” gan Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood yn Awstralia.
Prynwch docynnau yma: https://www.trybooking.com/au/event/1632651
Mae un o arweinyddion y gyngerdd, Aled Roberts, yn ymhelaethu amdani.
https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/post/prif-weinidog-cymru-yn-anrhydeddu-cantata-memoria
Trawsgrifiad o gynhadledd a gynhalwyd gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd:  https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0004/786379/ABERFAN-CONFERENCE.pdf
Defnyddwyd agoriad ‘Amor volat undique’ gan Carl Orff, 15fed symudiad “Carmin a Burana” i agor a chloi’r bennod.
https://youtu.be/MvlEopNnu80?si=CH00tv05NlnoGSCj
Cynlluniau BBC Cymru ar gyfer Aberfan 2026:  https://www.bbc.co.uk/mediacentre/mediapacks/cymru-wales-aberfan-60th-anniversary
rhaglencymru@hotmail.com

Oct 16, 2026

48 min

Rhys Evans BBC

Oct 12, 2026

Oct 12, 2026

31 min

Un o uwch swyddogion BBC Cymru yw gwestai’r podlediad - Rhys Evans, Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus.
Mae fe ac Andy yn trafod y torriadau i Radio Cymru + dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.
Mae Substack y pod eisoes wedi synfyfyrio am y sefyllfa: https://rhaglencymru.substack.com/p/wrth-aros-godot-y-gorfforaeth?r=ddc7m
rhaglencymru@hotmail.com am sylwadau a syniadau.
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân y gyfres 'That's Life', un o raglenni'r diweddar Esther Rantzen. 

Oct 12, 2026

31 min

Oct 8, 2026

31 min

Beth yw gweledigaeth DG y BBC Matt Brittin?
Does dim troi yn ôl gan Blaid Cymru ar bwnc datganoli darlledu.
A sgwrs am allu’r camera i hel straeon.
Dyna bynciau trafod pennod #130 o’r pod!!!!
Sianel You Tube Carwyn Rhys Jones: https://www.youtube.com/@carwynrhysjones287
Peidiwch âg anghofio’r Substack – @rhaglencymru
https://rhaglencymru.substack.com/p/ble-mae-prydain-matt-brittin?r=ddc7m
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân un o’r cyfresi teledu mwyaf dadleuol yn y 1960au – ‘Swizzlewick’. https://youtu.be/u6TmZk9RvR8?si=cE1i2Au4NWFajxsb
https://televisionheaven.co.uk/reviews/swizzlewick
rhaglencymru@hotmail.com

Oct 8, 2026

31 min

CYIG, DCMS ayyb

Oct 2, 2026

Oct 2, 2026

33 min

Cadeirydd Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg Owain Meirion yw'r gwestai.
Mae'n sôn am deiseb CYIG ynglyn â thoriadau'r BBC a'r ymgyrch sy'n codi yn eu herbyn a thros ddatganoli darlledu. 
https://cymdeithas.cymru/newyddion/lansio-deiseb-dros-ddiogelu-darlledu-cymru-2026-09-29
Yna, gohebu gan Andy yn sgîl cyhoeddi adroddiad Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am Siarter y BBC. 
Yr adroddiad: https://publications.parliament.uk/pa/cm5902/cmselect/cmcumeds/140/report.html
Aelodaeth y Pwyllgor: https://committees.parliament.uk/committee/378/digital-culture-media-and-sport-committee/membership
Stori Newyddion S4C: https://newyddion.s4c.cymru/article/ffir-drwydded-wedi-dyddio-angen-newid-sicrhau-dyfodol-bbc-asau
Substack: https://substack.com/@rhaglencymru
rhaglencymru@hotmail.com
Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Do Not Adjust Your Set', cyfres o'r 60au a osododd rhai o'r sylfeini i Monty Python!
https://youtu.be/tm03Ub5rJm8?si=YCpdzDQadZrM10JR
 
 

Oct 2, 2026

33 min