Episodes

Monday Dec 23, 2024

Saturday Dec 21, 2024
Saturday Dec 21, 2024
Mae'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod hynt a helynt nosweithiau etholiadol mewn stiwdios teledu a llawer mwy.
Mae Richard yn bennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru - https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre
Cerddoriaeth gloi: Chrim-Flow gan Mr Phormula
Wrth ddathlu'r Nadolig mae'na gyfle i glywed Andy ar bodlediad "Goon Pod" yn sgyrsio gyda Tyler Adams am "A Christmas Carol" gan Spike Milligan. https://podcasts.apple.com/gb/podcast/a-christmas-carol/id1569929507?i=1000680791861

Thursday Dec 19, 2024
Thursday Dec 19, 2024
Arbennigwr gwleidyddol a darlledwr o fri.
Yr Athro Richard Wyn Jones yw gwestai nesaf y podlediad.
Fe yw pennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre

Saturday Dec 14, 2024
Saturday Dec 14, 2024
Sylw manwl i ddarllediad Cymreig o 2RN Dulyn a anelwyd at y Cymry ym 1927.
Adloniant A gweithred i godi cywilydd ar y BBC!!
Dr Ffion Owen yw gwestai Andy Bell - mae hi wedi dod o hyd i lawer o wybodaeth am y darllediad arbennig hwn a'i berfformwyr: Y Brodyr Francis a Gwladys Williams.
https://dyffrynnantlle.360.cymru/2021/cantorion-cyntaf-diwylliant-cymraeg
Mae'r podlediad aml-ran yn trafod tystiolaeth ac ymchwil newydd sy'n codi mwy nag un cwestiwn!
Cerddoriaeth gloi: "Hall's Pictorial Weekly", Teledu RTÉ.

Thursday Dec 12, 2024
Thursday Dec 12, 2024
Mwy byth o hanes y darlledu Cymreig a Chymraeg o Iwerddon yn y 1920au.
Mae'r rhan gyntaf fan hyn: https://www.podbean.com/eas/pb-8ni3u-175a59f

Tuesday Dec 10, 2024
Tuesday Dec 10, 2024
Mae gan "Rhaglen Cymru" gopi sbâr o 'Chwyldro ym myd darlledu' - llyfr am orsaf radio annibynnol gyntaf Cymru a olygwyd gan Siân Sutton.
A hoffech ei gael e??!!!
Y cyfan sydd rhaid i chi wenud yw danfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol:
Chwiliwch am "Rhaglen Cymru" ar yr Awyr Las (BlueSky), Facebook a x/Twitter.
Neu ddanfonwch e-bost at rhaglencymru@hotmail.com
https://carreg-gwalch.cymru/products/chwyldro-ym-myd-darlledu

Saturday Dec 07, 2024
Saturday Dec 07, 2024
Rhan gyntaf bennod arbennig sy'n edrych ar ddarllediad Cymraeg a Chymreig hanesyddol ym 1927.
O stiwdio yn Nulyn ddaeth y rhaglen, ar adeg pan nad oedd y BBC - oedd newydd droi'n gorfforaeth gyhoeddus - yn gefnogol i roi lle ar y "diwifr" i'r Gymraeg.
Mae'na ddadlau am natur y rhaglen OND heb os roedd hi'n bwysig yn natblygiad darlledu yn yr iaith.
Cerddoriaeth gloi: Ó Domhnaill Abú - Seindorf Lluoedd Arfog Iwerddon
Os oes gennych unryhw sylwadau neu syniadau am "Rhaglen Cymru" danfonwch e-bost at rhaglencymru@hotmail.com
Mwy am hanes cynnar radio yn Iwerddon: https://www.rte.ie/archives/2017/0205/849939-2rn-the-origins-of-irish-radio
https://ibhof.blogspot.com
https://irishmediahistory.com/2021/03/29/the-irish-free-state-and-the-radio-age

Thursday Dec 05, 2024
Thursday Dec 05, 2024
Mae rhai'n mynnu ddaeth yr rhaglen radio go iawn cyntaf yn y Gymraeg o ... Ddulyn.
Podlediad dwy ran sydd ar y gweill i adrodd stori ryfedd AC mae Andy Bell wedi dod o hyd i wybodaeth newydd sy'n gweud hanes niwlog yn fwy niwlog byth!!!
Y bennod gyntaf yn cael ei rhyddhau ar Ragfyr y 7fed.

Saturday Nov 30, 2024
Saturday Nov 30, 2024
Llyr Morus sy'n siarad âg Andy am ei waith fel cynhyrchydd teledu a'i swydd newydd fel Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru.
Mae'n sôn am fwrlwm sector gynhyrchu sydd wedi dod â gwaith i rannau helaeth o Gymru, ei angerdd dros fynd â'r Gymraeg dros y byd a phwysigrwydd hybu cenhedlaeth newydd o bobl ddarlledu.
https://www.tac.cymru/newyddion/penodi-llyr-morus-yn-gadeirydd-newydd-tac
Cerddoriaeth gloi: "Tico's Tune", sef arwyddgân sioe Gay Byrne ar RTÉ.

Thursday Nov 28, 2024
Thursday Nov 28, 2024
Pennod ddiweddara'r podlediad fydd yn clywed am y sector annibynnol a'i phwysigrwydd i iechyd y diwidiant darlledu a thu hwnt.
https://www.tac.cymru/hafan




